Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y cyfarfod: |
|
|
Amser y cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (235)v3 |
1 Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
|
2 Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (0 munud)
Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau.
|
3 Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (0 munud)
Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau.
|
4 Datganiad gan Kirsty Williams: Cyflwyno Bil arfaethedig Aelod - y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru) (30 munud)
Dogfennau Atodol
Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru)
|
5 Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud) NNDM5625
Mike Hedges (Dwyrain Abertawe) Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn credu y dylid datganoli plismona (heblaw am Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol y DU a diogelwch gwladol).
|
6 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar agwedd Llywodraeth Cymru at hybu masnach a mewnfuddsoddi (60 munud) NDM5644 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar ei Ymchwiliad i Agwedd Llywodraeth Cymru tuag at Hybu Masnach a Mewnfuddsoddi, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Hydref 2014.
Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes
|
7 Dadl Plaid Cymru (60 munud) NDM5643 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd cynyddu masnach rhwng Cymru ac Unol Daleithiau America;
2. Yn credu y dylai gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, gael eu heithrio rhag effeithiau y Bartneriaeth Masnach a Buddsoddi Trawsatlantig;
3. Yn credu na ddylid caniatáu i'r Bartneriaeth Masnach a Buddsoddi Trawsatlantig atal llywodraethau democrataidd rhag trefnu unrhyw wasanaethau eraill ar sail perchnogaeth gyhoeddus;
4. Yn gwrthwynebu cynnwys setliad ar gyfer anghydfod rhwng buddsoddwyr a gwladwriaethau yn y cytundeb;
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU ynghylch:
a) eithrio gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, o'r Bartneriaeth Masnach a Buddsoddi Trawsatlantig; a
b) gwrthod y Bartneriaeth Masnach a Buddsoddi Trawsatlantig os yw'r cytundeb terfynol, pan gaiff ei gyflwyno i'w gadarnhau, yn tanseilio pwerau llywodraethau democrataidd i wneud penderfyniadau.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd cytundebau masnach rhyngwladol, fel y Bartneriaeth Masnach a Buddsoddi Trawsatlantig, i greu dyfodol economaidd gwell i bobl Cymru;
2. Yn credu y dylai llywodraethau fod yn ymwybodol o bwysigrwydd sefydliadau cenedlaethol, megis y GIG, wrth gytuno ar y Bartneriaeth Masnach a Buddsoddi Trawsatlantig; a
3. Yn nodi cynsail partneriaethau masnach presennol sy'n cynnwys dulliau diogelu sy'n eithrio gwasanaethau cyhoeddus allweddol o gytundebau o'r fath.
[Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol]
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu pwyntiau 2 i 5 a rhoi yn eu lle:
2. Yn croesawu trafodaethau ar fasnach a buddsoddi rhwng yr UE a'r Unol Daleithiau a allai fod werth hyd at £10 biliwn ychwanegol i economi'r DU bob blwyddyn;
3. Yn croesawu sylwadau'r Comisiynydd Ewropeaidd dros Fasnach, Karel de Gucht, a ddywedodd wrth yr International Business Times: "Bydd eithriad i wasanaethau cyhoeddus yn y Bartneriaeth Masnach a Buddsoddi Trawsatlantig, ac rydym wedi gwneud hynny'n glir iawn yn ein trafodaethau gyda'r Unol Daleithiau. Byddai hynny'n cynnwys y GIG...";
4. Yn croesawu'r ffaith na fydd y setliad ar gyfer anghydfod rhwng buddsoddwyr a gwladwriaethau yn berthnasol i ddeddfwriaeth yr aelod-wladwriaethau mewn perthynas ag iechyd, diogelwch y cyhoedd neu ddiogelwch; a
5. Yn croesawu'r ffaith bod y Comisiwn Ewropeaidd yn atal dros dro'r agwedd ar y cytuniad sy'n ymwneud â'r setliad ar gyfer anghydfod rhwng buddsoddwyr a gwladwriaethau er mwyn ymgymryd â gwaith ymgynghori pellach.
Gallwch weld yr erthygl o'r International Business Times drwy ddilyn y linc a ganlyn:
http://www.ibtimes.co.uk/eu-trade-commissioner-karel-de-gucht-confirms-nhs-exemption-ttip-1456538 [Saesneg yn unig]
|
8 Cyfnod pleidleisio
|
9 Dadl Fer (30 munud) NDM5642 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cymru ar y blaen – gwerthuso Cylchffordd Cymru. |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 9 Rhagfyr 2014